Gosodwaith ffilm
a sain ymdrochol

gan John Meirion Rea

Lladin

Enw

Hospes m ‎(genidol hospitis); ffurfdroad trydydd person

1. gwestai

2. gwestai, ymwelydd

Mae HOSPES yn osodiad ymgolli, safle-benodol a phorth ar-lein, sy'n gosod Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol. Rwyf wedi treulio’r un mis ar ddeg diwethaf yn ymestyn allan i’r strydoedd cyfagos, yn recordio sgyrsiau, seinweddau haniaethol, a chipio delweddau mewn ymgais i ddiffinio, neu o leiaf chwilio am ymdeimlad o beth allai ‘Cymreictod trefol’ fod ym 2022.

Mae llawer o fy ngwaith creadigol wedi’i ysbrydoli gan leisiau pobl Cymru; Mae fy niddordeb i wedi bod ar natur felodaidd, a gwead iaith a thafodiaith a sut mae hyn yn ein helpu i ddysgu rhywbeth am ein hanes cyffredin, a'r presennol cyfunol. Beth mae'r lleisiau sy'n cael sylw yn HOSPES yn eu dweud am hunaniaeth a pherthyn yn ein Prifddinas heddiw? 

Cafodd y fethodoleg hon ei defnyddio’n gyntaf wrth greu'r hyn a allai gael ei ystyried yn ddarn cydymaith: PARADE, a oedd yn gomisiwn Llyfrgell Maindee, wedi'i ganoli ym Maendy, Casnewydd: www.parade.maindee.org 

Fel Maendy, gellir olrhain Hanes Tredegarville, Sblot, ac Adamsdown yn ei bensaernïaeth: yn benodol yn y newid yn ei ddefnydd a'i swyddogaeth, boed yn segur, neu'n cael ei ddymchwel yn gyfan gwbl a'i ddisodli â'r newydd. Ond os edrychwn yn fanylach ar y trawsnewidiad hwn, daw darlun i'r amlwg o newid yn y boblogaeth, a'r cymunedau sy'n byw, ac sydd wedi byw yma. Mae hyn yn arbennig o wir am y Clafdy, a'i ymgnawdoliadau blaenorol fel Fferyllfa yn y rhan hon o'r Ddinas. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli hanes dau gan mlynedd, a tharddiad Caerdydd fel Dinas, a gafodd ei llunio yn y Chwyldro Diwydiannol ac yn dechrau gyda chyfarfod dan gadeiryddiaeth yr Ail Ardalydd Bute yn Neuadd y Dref, Caerdydd, yn 1822. Felly, mae'r cyferbyniad hynod ddiddorol hwn o barhad a byrhoedledd, yn 'awyrgylch caled' yr adeiladau eu hunain a'u gweddnewidiad o ran defnydd, hefyd yn 'awyrgylchoedd meddal' sy'n esblygu'n barhaus o ieithoedd, tafodieithoedd a bydoedd sain gwasgaredig.

Ai diffiniad y ‘gwesteiwr’ yw Caerdydd ac mai gwesteion ydym sy’n teithio drwyddi? Wedi'r cyfan, mae unigrywiaeth Caerdydd wedi'i wreiddio mewn hanes hir o amrywiaeth. Ydy’r Clafdy yn cynrychioli hanes gofal yn ein Dinas, ac ydy hwn yn drosiad i'r rhai sy'n cofleidio lles ein Cymry trefol?

Mae’r iteriad digidol ar-lein HOSPES yn gyfle i gwrdd â’r unigolion sy’n byw yn y cymunedau hyn, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig cefnogaeth a chymorth, hefyd y rhai sydd wedi’u gwreiddio yn yr ymdeimlad hwn o le, neu sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar. Mae elfennau 'cartograffeg sonig' y gwaith yn cael eu cyfuno â delweddau a ffilm haniaethol, a ysbrydolwyd yn rhannol gan raglenni dogfen, a thraddodiad ffilm 'City Symphony' y 1920au, wedi'i ddiweddaru i gyfleu ymdeimlad o'n Dinas gan mlynedd yn ddiweddarach, yn y 2020au.

Rwy’n gweld y casgliad hwn o 'bortreadau sonig' fel 'heneb ddigidol' wedi'i neilltuo ar gyfer cymuned, yn hytrach na dathlu unigolyn, gyda'r holl nodweddion cymhleth a ddaw yn sgil hyn. Mae'r ffotograffydd Eidalaidd Guido Guidi yn dweud: "Canol y Ddinas yw lle mae'r hen henebion, ond nid, ar y cyfan, fywydau pobl..."


Crëwyd HOSPES fel cydweithrediad â Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae'n rhan o brosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy gronfa Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles.

  • John Meirion Rea

    Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd. Ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd gyda M.Mus. mewn cyfansoddi, o dan gyfarwyddyd Alun Hoddinott CBE. Ers hynny, mae John wedi gweithio fel cyfansoddwr llawrydd ar gyfer llwyfannau cyngerdd, theatr, a ffilm, tra’n dilyn ei ddiddordebau ei hun mewn gosodweithiau cerddorol, a chelfyddyd sain.

  • Huw Talfryn Walters

    Mae Huw yn sinematograffydd gydag angerdd am ffotograffiaeth anialwch a ffotograffiaeth llonydd fformat mawr. Mae gan Huw dair gwobr BAFTA Cymru am ei waith camera: Scott Gibbs - Ei ddyn ei hun i'r BBC, Frank Lloyd Wright- Y Dyn a adeiladodd America i'r BBC, a Burton Y Gyfrinach ffilm nodwedd Gymraeg i S4C am Richard Burton, wedi'i ffilmio yn y Swistir. Ei ffilm ddiweddaraf oedd The Girls of Favela Street, rhaglen ddogfen i deledu FIFA ar sut mae pêl-droed yn grymuso merched ifanc yn favelas Rio. Dyma'r pedwerydd cydweithrediad â John.